Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (46) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Tynnwyd cwestiwn
7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Buddion caffael cyhoeddus i'r economi a chymunedau lleol
Dechreuodd yr eitem am 14.37
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Strategaeth Amgylcheddol 2010-11
Dechreuodd yr eitem am 15.20
5. Dadl ar Ddulliau o Adfywio
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM4915 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu
ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r
Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi
twf economaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn gweithio, ac y bydd yn rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio cymunedol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
7 |
29 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4915 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.
Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl ar Setliad yr Heddlu
Dechreuodd yr eitem am 16.54
NDM4916 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod
Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.35
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17:36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 ddydd Mercher, 22 Chwefror 2012